Cyflenwr y Mis - Bodoli
Mae Bodoli yn gwmni sy’n gwerthu celf cerrig mân a gemwaith, ac mae wedi ei leoli yn Nhycroes, Rhydaman. Mae’r cwmni yn defnyddio cerrig mân a broc môr lleol i greu ei gynnyrch. Mae ei waith yn creu ymdeimlad o hiraeth a hunaniaeth â Chymru.
Gwefan Bodoli
Llyfrau'r mis - Chwefror
Ysbryd Morgan - Huw L.Williams
£16.99
Wynebwn heddiw argyfyngau hinsawdd, gwacter ystyr, ac ymchwydd asgell dde ddigyfaddawd. Dyma destun sy'n olrhain hanes deallusol radical Cymru yng nghwmni merch o'r enw Ceridwen, sy'n ein hannog fel darllenwyr i ailafael mewn etifeddiaeth ddeallusol Gymreig yn wyneb heriau'r dydd.
Advent - Jane Fraser
£8.99
1904: Caiff Ellen sy'n 21 oed ei galw adref o'i bywyd newydd yn New Jersey, i gynorthwyo ar y fferm deuluol ar arfordir garw Gŵyr oherwydd iechyd bregus ei thad sy'n alcoholig. Mae Ellen yn ddyfeisgar, yn onest ac yn llawn angerdd, ond tybed a fydd hi'n dewis cartref a dyletswydd, neu gyfle a chyffro ar draws Môr Iwerydd?
Petai'r Byd i Gyd - Joseph Coelho
£6.99
Mae Taid yn rhoi pensil lliwiau’r enfys i mi ac yn dweud: Ysgrifenna a thynna luniau, ysgrifenna a thynna luniau dy freuddwydion di i gyd. Llyfr lluniau annwyl am y cariad rhwng merch fach a’i thaid, ac am gadw'r cariad hwnnw'n fyw trwy atgofion.