Amdanom ni
Siop sy’n gwerthu nwyddau Cymraeg a nwyddau o Gymru yw Cyfoes, sydd wedi ei lleoli ar Stryd y Cei, Rhydaman ac yng nghanolfan Hengwrt, Stryd Caerfyrddin, Llandeilo. Rydym yn gwerthu llyfrau, cardiau, CDs, DVDs, dillad plant, crefftau, nwyddau i’r cartref ac anrhegion o bob math. Sefydlwyd Cyfoes yn 2013 yn dilyn ymddeoliad perchnogion Siop y Cennen, sef siop Gymraeg a wasanaethodd trigolion Rhydaman a’r cyffiniau am chwarter canrif.
Rydym yn falch o gyflenwi llyfrau a deunydd addysgol Cymraeg a dwyieithog i nifer o ysgolion, cylchoedd meithrin a meithrinfeydd. Gallwn gynnig gostyngiad i ysgolion a grwpiau tebyg sy’n archebu wrthym, yn ogystal â chludiant lleol am ddim. Gallwn hefyd bostio archebion i’n cwsmeriaid.
Mae Cyfoes hefyd yn hwb cymunedol, lle mae modd cael gwybodaeth ynglŷn â materion sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg. Rheolir yr hwb gan chwaer-gwmni Cyfoes, sef Menter Dinefwr.